Enwi dynes fu farw wedi gwrthdrawiad beic sgi dŵr

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae’r heddlu wedi enwi dynes a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar Afon Menai.

Roedd Jane Walker yn 52 oed ac o ardal Sir Stafford. Bu farw yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng cwch RIB a beic sgi dŵr tua 7.30yh nos Sadwrn (8 Awst).

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad ar y cyd gyda Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol er mwyn sefydlu beth yn union ddigwyddodd.

Mae crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, wedi cael ei hysbysu.

Dyweddod y Dicteif Brif Arolygydd Brian Kearney: ”Mae’n ymholiadau cynnar yn awgrymu fod y beic sgi dŵr a’r cwch rhwng y lanfa ym Mhorthaethwy a phier Bangor ar y pryd…mae’n meddyliau gyda theulu a chyfeillion Mrs Walker.”

Mewn datganiad byr, dwyeddod teulu Mrs Walker eu bod mewn sioc ac wedi eu difetha gan ei marwolaeth sydyn.

Mae’r ditectifs hefyd yn apelio ar unrhyw un a welodd neu a dynnodd luniau ffilm o feiciau sgi dŵr neu gychod RIB yn yr ardal rhwng 5yh a 7.45yh ar noson y gwrthdrawiad.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr digwyddiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Y114906, neu yr ystafell reoli trwy’r sgwrs we fyw.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice