Porthaethwy: dynes yn marw ar ôl gwrthdrawiad beic sgi

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cwch a beic sgi dŵr ger Porthaethwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ardal tua 7.30yh nos Sadwrn (8 Awst).

Cafodd y ddynes ei chludo i’r Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle bu farw yn ddiweddarach. Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael.

Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad i ffoniwch 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Y114906.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice