A487: enwi dwy dynes fu farw mewn gwrthdrawiad

Mae’r heddlu wedi enwi mam a merch a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A487.

Roedd Nancy Roberts yn 84 oed ac Anwen Mitchelmore yn 59 oed ac o ardal Porthmadog.

Cafodd y gwasanethau brys eu galw i gwrthdrawiad rhwng car Volkswagen Polo coch a lori felyn ger Garndolbenmaen tua 3.30yp brynhawn Mercher (15 Gorffennaf).

Cyhoeddwyd bod y gyrrwr a’r teithiwr a oedd yn teithio yn y Polo, wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am unrhyw dystion i ddod ymlaen.

Dyweddod y Rhingyll Emlyn Hughes gan Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theuluoedd y ddwy a gafodd eu lladd. Maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.”

”Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cysylltu gyda ni hyd yma gyda lluniau ‘dash cam’, ond rwy’n apelio eto ar unrhyw oedd yn teithio yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad ond sydd heb gysylltu eto i wneud hynny cyn gynted â phosib.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice