Garndolbenmaen: dwy dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad

Mae dwy ddynes wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A487.

Ychydig ar ôl 3.30 brynhawn Mercher (15 Gorffennaf), cafodd y gwasanaethau brys eu galw i adroddiad am wrthdrawiad yn cynnwys Volkswagen Polo coch a lori felyn rhwng Garndolbenmaen a Phenmorfa.

Cyhoeddwyd bod y gyrrwr a’r teithiwr a oedd yn teithio yn y Polo, wedi marw yn y fan a’r lle. Bu’r ffordd ar gau am sawl awr ond mae bellach wedi ailagor.

Mae’r heddlu’n apelio am unrhyw dystion i ddod ymlaen.

Dywedodd Rhingyll Emlyn Hughes o’r Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Yn anffodus mae hyn yn cael ei archwilio fel gwrthdrawiad traffig ar y ffordd angheuol ac mae ein meddyliau yn aros gyda theulu’r rhai fu farw.”

”Byddant yn awr yn cael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt teuluoedd sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.”

”Rwy’n annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A487 ychydig cyn y gwrthdrawiad ac a allai fod â recordiad camera cerbyd perthnasol i ddod ymlaen.”

”Nawr mae angen i ni ddarganfod beth ddigwyddodd, felly gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo gyda’r ymchwiliad gysylltu â ni ar unwaith.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad angheuol, cysylltwch â’r Uned Plismona Ffyrdd ar 101, gan ddyynnu’r rhif digwyddiad Y100773, neu trwy’r sgwrs fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice