Mae beiciwr modur yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn.
Digwyddod y gwrthdrawiad ar ffordd-ddi-ddosbarth ger fferm Bron Miod yn Llanaelhaearn ychydig cyn 3.20 prynhawn Sul (5 Gorffennaf).
Cafodd dyn 31 oed o’r ardal ei gludo mewn ambiwlans awyr i uned trawma arbenigol mewn ysbyty yn Stoke gydag anafiadau sy’n peryglu bywyd.
Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad oedd yn ymwneud â cherbyd oddi ar y ffordd, neu sydd ag unrhyw recordiad camera cerbyd o’r ffordd ar y pryd, i gysylltu ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod Y095831