Marwolaeth Caergybi: arestio dynes

Mae dynes wedi ei harestio yn dilyn marwolaeth merch 18 oed yng Nghaergybi.

Mae ditectifs yn ceisio sefydlu y symudiadau olaf hysbys Jade Mitchell.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i adroddiadau am lances anymwybodol mewn tŷ ar Stryd Thomas toc wedi 6yb bore Gwener diwethaf (19 Mehefin).

Yn ôl yr heddlu, cyhoeddwyd Ms Mitchell yn farw yn y fan a’r lle ”er ymdrechion gorau’r criw ambiwlans”. Mae crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, wedi cael gwybod.

Ar dydd Llun, arestiwyd dynes leol ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau rheoledig.

Dyweddod DS Arwel Hughes: ”Yn dilyn marwolaeth drasig Jade, sbardunwyd ar ymchwiliad gan yr heddlu. Fel y cyfryw, rydym yn awyddus i fynd ar drywydd symudiadau olaf hysbys Jade.”

”Buaswn yn ddiolchgar petai unrhyw un a welodd neu a gyfathrebodd gyda Jade ar ddydd Iau 18 Mehefin 2020 neu’n oriau mân bore dydd Gwener 19 Mehefin 2020 yn cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad Y087325.”

Ychwanegodd DS Hughes: ”Erys ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Jade yn y cyfnod trasig hwn. Gofynnwn i’w preifatrwydd gael ei barchu.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice