Cyrch cyffuriau yng Nghaernarfon: arestio dyn

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn 51 oed wedi cael ei arestio yn dilyn cyrch cyffuriau yng Nghaernarfon.

Fe wnaeth yr heddlu, gan gynnwys swyddogion drylliau tanio weithredu gwarant mewn cyfeiriad yng Nglan Seiont toc wedi 9yb bore Gwener (19 Mehefin).

Heddlu Gogledd Cymru

Cafwyd hyd i swm o’r hyn y credir ei fod yn gyffuriau Dosbarth A. Mae dyn yn nalfa’r heddlu ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau.

Meddai’r Rhingyll Non Edwards: ”Byddwn yn parhau i wrando ar bryderon y cyhoedd a byddwn yn gweithredu ar unrhyw wybodaeth a dderbynnir. Ni ddylai trigolion lleol orfod dioddef y math hwn o ymddygiad yn eu cymdogaeth.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice