Llangefni: dyn wedi’i arestio ar ôl i gar daro merch

Mae merch ifanc yn yr ysbyty ar ôl cael ei tharo i lawr gan gar yn Llangefni.

Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn y gwrthdrawiad ar ystâd Pencraig tua 4.40pm brynhawn Sul (7 Mehefin).

Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl mewn ambiwlans awyr. Nid oes unrhyw fanylion am ei chyflwr.

Mae’r dyn yn parhau yn y ddalfa ac mae’r heddlu wedi apelio ar unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad i gysylltu â’r ystafell reoli ar 101.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice