Gwrthdrawiad ym Mhencraig: merch 3 oed wedi’i hanafu’n ddifrifol

Mae merch tair oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei tharo i lawr gan gar yn Llangefni.

Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Ford Focus du a phlentyn ar stad Pencraig brynhawn Sul (7 Mehefin).

Cafodd yr heddlu eu galw i’r safle tua 4.50yp – roedd adroddiad bod y gyrrwr Ford Focus wedi rhedeg o’r safle.

Aeth swyddogion i chwilio am y gyrrwr ar unwaith, dyn lleol a’i ganfod yng nghanol tref Llangefni ychydig yn hwyrach lle cafodd ei arestio.

Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau i’w phen ond nid yw ei hanafiadau’n peryglu ei bywyd.

Dywedodd y Rhingyll Meurig Jones o Uned Plismona Ffyrdd: ”Arestiwyd y dyn ar nifer o gyhuddiadau gyrru yn cynnwys gyrru o dan ddylanwad cyffuriau, methu â stopio a gyrru heb drwydded neu yswiriant. Mae wedi ei ryddhau gan ddisgwyl ymchwiliad pellach.”

”Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y car yn cael ei yrru ychydig cyn y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â ni.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr gwrthdrawiad, cysylltwch â PC Logan yn yr Uned Plismona Ffyrdd yn Llanelwy ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Y081556.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice