Dynes wedi marw mewn tân yn Neuadd Bontddu

Mae dynes wedi marw yn dilyn tân mewn plasty hanesyddol yn Bontddu, ger Dolgellau.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw at dân yn yr hen westy Neuadd Bontddu tua 9.10yb bore Gwener (5 Mehefin)

Cafodd dynes ei hachub gan ddiffoddwyr tân, ond bu farw yn y fan a’r lle.

Dyweddod llefarydd ar ran gwasanaeth tân: ”Cafodd peiriannau tân o Ddolgellau, Harlech, Abermaw, Bala a Blaenau Ffestiniog, un peiriant ALP, un pwmp cyfaint mawr a’r uned rheoli digwyddiad eu hanfon yno.”

Bydd yr hyn a achosodd y tân yn destun ymchwiliad ar y cyd gyda’r Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice