Llyn Tegid: dyn wedi marw ar ôl cael ei achub

Mae dyn lleol wedi marw wedi iddo fynd i drafferthion yn Llyn Tegid yn Y Bala.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r llyn tua 4.50yp brynhawn Iau (28 Mai).

Cafodd dyn 19 oed ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn ambiwlans awyr ond bu farw yno.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae’r teulu’r dyn wedi cael gwybod. Nid oes unrhyw fanylion pellach.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice