Porthaethwy: beiciwr wedi marw mewn gwrthdrawiad

Llun teulu: Heddlu Gogledd Cymru

Mae tad i dri wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan gar ger Porthaethwy.

Bu farw Robert Holmes, 36 oed, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic a cherbyd ar Ffordd Pentraeth nos Wener (10 Ebrill).

Roedd y A5025 ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng tafarn y Four Crosses a Pentraeth Automotive dros nos, ond mae bellach wedi ailagor.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion i’r gwrthdrawiad i ddod ymlaen.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr gwrthdrawiad, neu a oedd yn teithio’n yr ardal ac sydd â ffilm camera cerbyd, cysylltwch â’r Uned Plismona Ffyrdd ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Y049943.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice