Darganfod corff dyn yng Nghaernarfon

Mae corff dyn 32 oed wedi’i ddarganfod mewn tŷ yng Nghaernarfon.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ger yr A487 ar Ffordd Bangor toc 7.30yb fore Iau (5 Mawrth).

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru, mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy. Mae swyddogion yn y fan a’r lle wrth i’r ymchwiliadau barhau.

Nid oes rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice