Tregarth: llanc yn ddifrifol wael wedi gwrthdrawiad beic

Mae llanc 16 oed yn ddifrifol wael wedi gwrthdrawiad beic yn Nhregarth, ger Bangor.

Cafodd y heddlu yn galw am wrthdrawiad un cerbyd wrth i feic oddi ar y ffordd daro wal cyn 1:30yb fore Mercher (4 Mawrth).

Cafodd y llanc oedd yn reidio’r beic ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond ers hynny, mae wedi cael ei drosglwyddo i uned drawma arbenigol yn Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke gydag anafiadau sy’n peryglu ei bywyd.

Mae’r Uned Plismona Ffyrdd yn Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am dystion i’r gwrthdrawiad i ddod ymlaen.

Dywedodd Rhingyll Meurig Jones o’r Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Mae ein hymholiadau i sefydlu beth sydd wedi digwydd yn mynd yn ei blaen ac rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu a welodd y beic yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, i ddod ymlaen.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch ar 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod Y030666, neu y sgwrs fyw trwy wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice