Gruffydd yn ennill Cân i Gymru

Avanti / S4C

Mae Gruffydd Wyn wedi ennill Cân i Gymru 2020.

Roedd y tenor o Amlwch yn fuddugol gyda’r gyda’r gân Cyn i’r Llenni Gau yn y gystadleuaeth flynyddol yn Aberystwyth nos Sadwrn (29 Chwefror).

Mae Gruffydd Wyn yn berfformiwr profiadol a daeth i amlygrwydd ar y gyfres Britain’s Got Talent pan gyrhaeddodd y rowndiau olaf yn 2018.

Dwyeddod Gruffydd: ”Dwi wrth fy modd mod i wedi ennill, a methu coelio’r peth i ddweud y gwir! Diolch i bawb wnaeth bleidleisio.”

”Roedd y gân yma i fy Nain a fu farw’n ddiweddar, a dwi wedi gweld bywyd yn anodd iawn ers ei cholli. Dwi’n gobeithio y bydda’i hi yn browd iawn ohona’ i heno.”

Cafodd Cyn i’r Llenni Gau ei dewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr S4C. Mae Gruffydd yn ennill gwobr o £5,000 a’r cyfle i gystadlu yn yr Ŵyl Ban-geltaidd yn Iwerddon fis nesaf.

Pan Fyddai’n Wythdeg Oed gan Rhydian Meilir a Jacob Elwy oedd y gân a gipiodd yr ail a gwobr o £2,000 a Morfa Madryn gan Alistair James oedd yn drydydd â gwobr o £1,000.

Dywedodd Siôn Llwyd o cwmni Avanti, sy’n cynhyrchu’r Cân i Gymru ar ran S4C: ”Llongyfarchiadau i Gruffydd Wyn ac i bob un o’r perfformwyr a’r cyfansoddwyr sydd wedi cymryd rhan yng Nghân i Gymru eleni – mae wedi bod yn noson anhygoel.”

”Mae safon yr artistiaid heno yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol Cân i Gymru a dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.”

GWYLIO: Cân fuddugol Gruffydd Wyn yn Cân i Gymru 2020

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice