Gwrthdrawiad angheuol ger Caergybi: apêl i dyst ‘allweddol’

Llun teulu: Heddlu Gogledd Cymru

Mae’r heddlu’n chwilio am dyst allweddol yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ger Caergybi.

Bu farw Dean Short, 54 oed, ar ôl iddo gael ei daro gan gar ar yr A5 ger siop Tesco ar ystâd ddiwydiannol Penrhos ar nos Fawrth (25 Chwefror).

Mae’r ymchwiliad wedi adnabod dyn a roddodd gymorth cyntaf i’r cerddwr cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd toc wedi 7yh.

Meddai’r Rhingyll Meurig Jones o Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Rydym yn ymwybodol fod y dyn yma wedi ceisio helpu’r cerddwr felly rydym yn credu fod ganddo wybodaeth angenrheidiol a wnaiff gynorthwyo’r ymchwiliad.”

”Os mai chi oedd y dyn hwnnw plis cysylltwch â ni cyn gynted ag sy’n bosib drwy ffonio 101 neu gysylltu â ni drwy’r wefan gan roi’r rhif digwyddiad Y027144.”

Mae’r heddlu hefyd yn parhau i apelio am unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu i unrhyw un a welodd dyn yn cerdded rhwng Tesco a lleoliad y gwrthdrawiad rhwng 6:30yh a thoc wedi 7yh i gysylltu â ni cyn gynted ag sy’n bosib.

Mewn teyrnged, dywedodd chwaer Mr Short, Kerys: ”Fe wnaeth gyffwrdd calonnau cymaint o bobl ac roedd bob amser yn garedig ac ystyriol i bobl eraill. Ei waddol oedd ‘bydd garedig i bobl eraill.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice