Lladradau metel sgrap: arestio tri dyn

Heddlu Gogledd Cymru

Mae tri dyn wedi’u harestio yn dilyn nifer o ladradau ”llawer iawn” metel sgrap ym Môn.

Cafodd dau ddyn o Fanceinion a dyn arall o Stockport eu harestio yn Gaerwen ddydd Gwener (14 Chwefror) ar amheuaeth o ddwyn plwm ar doeau a cheblau o werth uchel o nifer o leoliadau yn yr wythnosau diwethaf.

Mae ditectifs hefyd wedi atafaelu cerbyd Land Rover Discovery o’r grŵp.

Yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd yr heddlu i berchenogion eiddo gwag ac adeiladau busnes i fod yn wyliadwrus.

Dywedodd Arolygydd Rhanbarth Llinos Davies: ”Byddem yn annog y cyhoedd i sicrhau bod unrhyw adeiladau gwag yn cael eu gwneud mor ddiogel â phosibl.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice