Dyn wedi’i ymosod arno yn Nolgellau

Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl ymosodiad ar ddyn yn Nolgellau y penwythnos diwethaf.

Cafodd dyn anafiadau nad oedd yn fygythiad i’w fywyd yn dilyn yr ymosodiad yn ardal Gwern Ceirios o’r dref nos Sadwrn diwethaf (8 Chwefror).

Yn ôl yr heddlu, roedd yn ddigwyddiad ynysig a nid oedd yr anafiadau a gafwyd gan y dyn yn rhai difrifol.

Dyweddod DC Steve Phelps o CID Porthmadog: ”Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod ag unrhyw luniau CCC neu Gamera Cerbyd a allai fod wedi recordio’r drosedd.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad, cysylltwch â CID Porthmadog ar 101 neu yr ystafell reoli trwy wefan Heddlu Gogledd Cymru. Fel arall, cysylltwch â Taclo’r Taclau (Crimestoppers) yn ddienw ar 0800 555 111.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice