Llithfaen: enwi dyn fu farw mewn gwrthdrawiad

Llun teulu: Heddlu Gogledd Cymru

Mae’r dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhenllŷn wedi cael ei enwi.

Roedd Gryffudd Rhun Jones yn 27 oed ac yn dod o ardal Brynaerau, Rhosfawr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd ddi-ddosbarth rhwng Llithfaen a Pentreuchaf tua 1.50yb yn oriau mân ddydd Sul (2 Chwefror) ond bu farw Mr Jones yn y fan a’r lle.

Mewn datganiad byr, meddai teulu Mr Jones: ”Roedd yn fab, gŵr, tad a brawd tu hwnt o gariadus ac mi fydd yn golled enfawr i bawb.”

Mae’r heddlu yn parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad hefo gyda char Skoda Octavia du.

Dywedodd Rhingyll Raymond Williams sy’n arwain yr ymchwiliad: ”Rydw i a fy nhîm yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a chyfeillion y dyn ifanc yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.”

”Roedd y ffordd ar gau am bron i chwe awr tra cynhaliwyd ymchwiliad cychwynnol ar y lleoliad. Rwy’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd efallai wedi bod yn teithio ar y ffordd rhwng 1 a 2 y bore. ”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr gwrthdrawiad, cysylltwch â’r Uned Plismona Ffyrdd ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Y015161, neu drwy’r sgwrs we fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice