Canfod corff dynes yn Rhosneigr

Mae corff dynes 58 oed wedi’i darganfod mewn tŷ yn Rhosneigr.

Cafodd parafeddygon ac ambiwlans eu galw i’r cyfeiriad yn Awel-y-Mor oddeutu 4.20yb bore Mercher (22 Ionawr).

Mae’r farwolaeth yn cael ei disgrifio fel un ”anesboniadwy” gan yr heddlu ac mae swyddogion fforensig yn lleoliad y darganfyddiad.

Mae crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, wedi cael ei hysbysu.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice