A55: dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad Nos Galan

Mae dyn 64 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 ar Nos Galan.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Caergeiliog tua 11:53yh nos Fawrth (31 Rhagfyr) rhwng car Vauxhall Mokka du a lori nwyddau trwm. Roedd y ddau gerbyd ar y lôn ddwyreiniol.

Bu farw gyrrwr y Mokka yn y fan a’r lle.

Bu’r ffordd ar gau am oddeutu chwe awr rhwng Caergeiliog (cyffordd 4) a Bryngwran (cyffordd 5). Cafodd tri chriw o ymladdwyr tân o Gaergybi ac Amwlch eu galw i safle’r ddamwain.

Dwyeddod Sargant Darren Newby, o Uned Plismona Ffyrdd: ”Rydym yn edrych am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn dyst neu sydd â gwybodaeth am natur yr oedd y Vauxhall Mokka yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, neu gan unrhyw un sydd â fideo dashcam o’r digwyddiad.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr gwrthdrawiad, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod X188098.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice