Llofruddiaeth yn Fairbourne: dyn wedi ei gyhuddo

Google

Mae dyn 75 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes oedrannus yn Fairbourne.

Bu farw Vivienne Bryan, 74 oed, yn dilyn digwyddiad mewn eiddo ar Rodfa Francis ar ddydd Nadolig.

Cafodd Mrs Bryan ei darganfod gydag anafiadau difrifol.

Fe fydd dyn lleol, Thomas Bryan, yn ymddangos yn llys ynadon Llandudno fore Llun (30 Rhagfyr).

Dyweddod DCI Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru ar ddydd Gwener: ”Erys ein meddyliau o hyd gyda theulu’r dioddefwr wrth iddynt ddod i delerau â’u colled.”

”Mae swyddogion cyswllt teuluoedd sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn parhau i’w cefnogi. Rydym yn parhau i ofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu yn y cyfnod trist hwn.”

”Rwyf…yn dymuno tawelu meddwl ein cymuned leol mai prin yw digwyddiadau fel hyn yng ngogledd orllewin Cymru. Credwn fod hwn yn ddigwyddiad trasig unigol.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice