Cyngor i berchnogion carafanau ar ôl lladradau

Mae’r heddlu wedi atgoffa perchnogion carafanau i sichrau eu bod yn smuud unrhyw bethau gwerthfawr o’u carafanau dros gyfnod y gaeaf pan fyddant yn wag am gyfnod estynedig.

Daw’r cyngor ar ôl i nifer o fatris carafán gael eu dwyn o garafanau teithiol yn ardal de Gwynedd.

Dywedodd SCCH Gareth Jones: ”Mae nifer o safleoedd wedi cael eu targedu ac rydym yn annog perchnogion i dynnu eitemau gwerthfawr a batris o’u carafanau a hefyd i adael blwch y batri heb ei gloi i atal unrhyw ladron posibl rhag achosi difrod i’r carafanau.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr lladrad, cysylltwch â SCCH Gareth Jones yng ngorsaf heddlu Dolgellau ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 19100608648. Fel arall, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111 neu defnyddiwch y sgwrs fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice