
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Mae cath wedi marw ar ôl tân difrifol mewn tŷ yn Nhrefor.
Cafodd y preswylydd ei rhybuddio am y tân yn ei chartref yn Lime Street wedi i larymau mwg ei deffro a chafodd criwiau o Bwllheli a Nefyn eu galw i’r eiddo am 6.45yh ar nos Lun (Rhagfyr 2). Achoswyd difrod tân 100% i’r llawr gwaelod a difrod mwg i weddill yr eiddo.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan gannwyll oedd wedi cael ei gadael yn llosgi ar silff ffenestr ac a roddodd fleind pren ar dân.
Meddai Jeff Hall, Pennaeth Safonau Proffesiynol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: ”Mae’r digwyddiad yn dangos pwysigrwydd larymau mwg, a ddeffrodd y preswylydd a’i rhybuddio am y tân.”
”Ceisiodd y preswylydd ddiffodd y tân ei hun, ac roedd yn ffodus iawn ei bod hi wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf. Derbyniodd driniaeth ocsigen gan griwiau yn y fan a’r lle a chafodd archwiliad rhagofalol gan barafeddygon.”
”Ein cyngor ar ôl darganfod tân ydi ewch allan, arhoswch allan a galwch 999 – peidiwch â cheisio taclo’r tân eich hun.”
”Rwyf yn erfyn ar drigolion i fod yn hynod ofalus gyda chanhwyllau a fflamau agored. Mae’r rhybudd hwn yn berthnasol iawn adeg y Nadolig pan fydd pobl yn ystyried defnyddio canhwyllau i addurno’r cartref.”