Ymsodiad gan grŵp ar ddwy dynes ym Mangor

Mae ditectifs yn chwilio am grŵp yn dilyn ymosodiad ar ddwy ddynes ym maes parcio ym Mangor.

Digwyddodd yr ymosodiad y tu allan i Asda ar Ffordd Farrar am ychydig cyn hanner nos ar nos Wener diwethaf (15 Tachwedd).

Daeth grŵp o ddau ddyn a dwy ferch at ddwy ferch arall ac ymosododd un o’r merched o’r grŵp ar un o’r merched hyn. Yna ymosododd un o’r dynion o’r grŵp ar y ferch arall.

Rhedodd y ddwy ferch, tuag at glwb nos yr Academi ar Ffordd Deiniol. Ni chafwyd unrhyw anafiadau difrifol.

Gadawodd y rhai dan amheuaeth y lleoliad mewn car coch bychan o gwmpas chwarter wedi hanner nos.

Disgrifiwyd un o’r grŵp fel ei bod tua 22-23 oed gyda gwallt brown ac yn gwisgo dillad du i gyd. Roedd un o’r merched gyda hi yn gwisgo siaced puffer glas a gwyn tua 29-30 mlwydd oed â gwallt melyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: ”Rydym yn apelio am unrhyw un oedd yn dyst i’r digwyddiad hwn, neu’n cofio gweld unrhyw ferched yn cyfateb i’r disgrifiadau yma o gwmpas yr amser hwn, neu’n gwybod pwy ydynt. Hefyd, os oedd unrhyw un y tu allan i glwb nos yr Academi ym Mangor yr adeg yma a welodd y digwyddiad.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr ymosodiadau, cysylltwch â gorsaf heddlu Bangor ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 19100671018, neu Taclo’r Taclau (Crimestoppers) yn ddienw ar 0800 555 111.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice