”Ddaru ni drio’n galed i achub ei fywyd” – cyfrif llygad-dyst

Mae rhingyll heddlu o Gaernarfon wedi ysgrifennu cyfrif llygad-dystion am ymdrechion i achub bywyd dyn.

Bu farw’r dyn yng Nghastell Caernarfon yn ystod gwasanaeth yn y dref i nodi Sul y Cofio (10 Tachwedd).

Dyma’r cyfrif yn llawn gan y Rhingyll Non Edwards…

”Ro’n i fod i gael penwythnos i ffwrdd ond gan ei bod hi’n Sul y Cofio a gwasanaeth coffa’n cael ei gynnal yng Nghaernarfon a minnau’n Rhingyll Tîm Plismona’r Gymdogaeth roedd rhaid i mi fod ar ddyletswydd i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth ac i’r tîm cymunedol fod allan yn dangos eu presenoldeb.”

”Canodd y larwm am 7 o’r gloch. Mi wnes i adael y gath i mewn a’i bwydo, bwydo’r ci a’i adael allan ac yna dweud hwyl fawr wrth y plant.”

”Mam sengl ydw i, ac mae gen i ddau o blant 14 a 11 oed. Yn aml gan fy mod yn gweithio mae’n rhaid iddyn nhw edrych ar ôl eu hunain. Roedd y dydd Sul hwnnw’n ddiwrnod o’r fath. Hwyl Mam.”

”Dwi wedi bod yn swyddog heddlu am 19 mlynedd a dwi wedi gweld sawl prif gwnstabl yn mynd a dod. Doeddwn i ddim wedi cwrdd â’r prif gwnstabl newydd, Carl Foulkes, eto a’r diwrnod hwnnw ro’n i fod i’w gwrdd am y tro cyntaf. Roedd yn dod i Gaernarfon ar gyfer y Gwasanaeth Coffa.”

”Mi es i mewn, nodi fy mod ar ddyletswydd a rhoi fy lifrau ymlaen. Edrychais ar fy e-byst a fy ngwaith ar y sgrin. Yna, mi wnes i groesawu’r tîm ar gyfer y gwasanaeth, un swyddog cefnogi cymuned yr heddlu, dau swyddog gwirfoddol (un ar ei shifft gyntaf un) a phedwar cadét ifanc (13-16 oed). Roedd tri o’r rhain heb fod ar ddyletswydd erioed o’r blaen.”

”Roedd y tîm yn ifanc ac yn ddibrofiad ond doedd dim byd annisgwyl yn mynd i ddigwydd heddiw, nag oedd? Ein gwaith oedd bod yn bresennol a sicrhau bod y ffyrdd a’r traffig yn llifo’n esmwyth.”

”Wnaeth pethau ddim dechrau’n rhy dda! Mi wnes i gyfarch y prif gwnstabl a mynd ag o i lawr i’r Maes i gwrdd â phobl bwysig eraill. Roedd y Prif yn ddymunol a sylwodd mod i’n gwisgo fy het gyda’r cefn yn y blaen!   Mi wnes i droi’r het y ffordd iawn yn sydyn. Rhaid ei fod yn meddwl mod i’n wirion. Doeddwn i ddim yn meddwl y baswn i yn cwrdd â fo eto felly ro’n i’n gobeithio y byddai’n anghofio am y peth.”

Geograph (Mat Fascione)

”Aeth yr orymdaith a’r gwasanaeth yn eu blaen yn iawn ac i gloi aeth y pwysigion i sefyll o flaen Castell Caernarfon i saliwtio’r orymdaith wrth iddo fynd heibio. Ro’n i’n sefyll wrth y ffordd ar gau.”

”Dyna lle ro’n i’n sefyll pan, am 11.45yb daeth gŵr ata i mewn ar frys yn gofyn am help. Wna i byth anghofio ei eiriau – “mae dyn yn marw yn y tŵr.”

”Gadawais fy safle a rhedeg. Galwais yr ystafell reoli i ddweud bod angen ambiwlans. Do’n i ddim yn gwybod unrhyw fanylion pellach. Wrth i mi gyrraedd y castell taflais fy het i rywle – ac yna, dyna lle oedd o…roedd prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn rhedeg y tu ôl i mi.”

”Ar y tŵr roedd dyn wedi disgyn a’i wraig wrth ei ymyl wedi ei hysgwyd. Tynnais fy nghôt, belt ac arfwisg y corff a’u taflu o’r neilltu fel y gwnes i gyda fy het.”

”Es i ar fy ngliniau a dechrau gweithredu CPR. Roedd y prif gwnstabl ar ei liniau hefyd yn fy helpu.”

”Pwyso ar y frest 30 gwaith, 2 anadl, 30, 2 – drosodd a throsodd, dyna beth ddysgais i yn y gwersi Cymorth Cyntaf. Fi oedd yn gwneud y 30 – a’r prif gwnstabl yn gwneud ‘ceg wrth geg’. Mi wnaethon ni ein gorau glas i’w achub. Yna, daeth y parafeddygon.”

”Sefais yn ôl i weld y meddygon, y parafeddygon a’r ambiwlans awyr yn gwneud eu gwaith gyda’i gilydd yn bwyllog i achub bywyd y dyn. Mi weithion nhw’n galed…am beth amser. Ond er gwaethaf eu hymdrechion, yn drist iawn, bu farw.”

”Roedd y gŵr hwn a’i wraig hyfryd yn dod o Awstralia ac ar ei gwyliau yng Ngogledd Cymru pan fu farw yng Nghastell Caernarfon. Mi wnes i fy ngorau i gysuro ei wraig ac er gwaethaf ei dagrau diolchodd i mi am geisio mor galed i achub ei gŵr. Mi wnes i dorri i lawr a chrio hefyd.”

”Nid robots ydym ni, dan ni’n fodau dynol ac er gwaethaf 19 mlynedd o wasanaeth, a delio â marwolaeth gymaint o weithiau yn y gorffennol, mi wnaeth y digwyddiad heddiw gyffwrdd â mi. Mi wnes i geisio ei achub, ond mi wnes i fethu, ac mi wnaeth hi ddiolch i mi.”

”Yn ddiweddarach mi wnes i ymweld â’r wraig weddw mewn gwesty cyfagos. Ro’n i eisiau gwybod popeth am y gŵr hwn ro’n i wedi ceisio ei achub. Do’n i ddim eisiau meddwl amdano fel “yr ymadawedig”, ac felly yn y gwesty mi wnes i eistedd gyda’i wraig wrth iddi siarad a dangos lluniau ohono gan ddweud dyn mor arbennig oedd o.”

”Dwedodd wrtha i y byddai wedi chwerthin ar y ffaith iddo farw mewn lle mor odidog â Chastell Caernarfon. Dwedais nid yn unig roedd wedi marw mewn lle mor odidog â’r castell ond bod prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi ceisio ei achub hefyd. Gwenodd y ddwy ohonom a diolchodd iddo am ei ymdrechion. Roedd hi’n diolch o’i chalon er bod ei chalon yn torri.”

”Gadewais i hi a dychwelyd i’r orsaf lle gwnaeth fy nghydweithwyr fy nghofleidio a dweud wrtha i am fynd yn ôl at fy mhlant.”

”Es i nol i’r tŷ, rhoi’r goriad yn y drws, a dechrau fy ail sifft..”Mam, be sy ‘na i de?” Cofleidiais fy mhlant. Do’n i ddim yn gwybod pam, ro’n i angen gwneud.”

”Dyna’r tro cyntaf i mi gwrdd â’r prif gwnstabl, Carl Foulkes – wna i byth anghofio. Ro’n i’n meddwl y byddai’n fy anghofio gan ei fod yn cwrdd â chymaint o swyddogion, ond dw i ddim yn meddwl hynny rywsut. Bod dynol ydy o hefyd, wedi’r cwbl. Mi wnaeth o hefyd geisio’n galed i achub bywyd rhywun.”

”Dan ni’n meddwl bod y prif gwnstabl yn eistedd yn ei swyddfa yn y pencadlys mor bell oddi wrthym ni, yr heddlu ar lawr gwlad. Dydy Carl Foulkes ddim fel hynny. Pan oedd angen rhywun i fy helpu, rhedodd ata i ac am hynny byddaf yn ddiolchgar am byth.”

Heddlu Gogledd Cymru

”Gweithiodd fy nhîm ifanc yn galed i glirio’r strydoedd cyfagos ac atal y traffig er mwyn i ni allu cludo’r gŵr o’r castell gydag urddas.”

”Swyddogion gwirfoddol a chadetiaid oedd y rhain ac roedd rhaid iddynt ddelio ag argyfwng go iawn. Mi wnaethon nhw gyflawni eu gwaith gydag urddas a phroffesiynoldeb ac dw i mor falch ohonyn nhw i gyd. Iddyn nhw, y Prif Gwnstabl, fy nghydweithwyr yn y gwasanaethau brys – diolch o galon.”

”Dan ni’n cofio Tachwedd 11eg bob blwyddyn. Rhywsut, dw i’n meddwl fydda i’n cofio’r 10fed hefyd.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice