Marwolaeth ‘anesboniadwy’ yng Nghaernarfon

Mae’r heddlu’n trin marwolaeth dyn yng Nghaernarfon fel un heb esboniad.

Cafodd corff y dyn lleol ei darganfod y tu mewn i gerbyd ar flaen traeth Aber (Y Foryd) tua 7.35yb bore dydd Iau (7 Tachwedd).

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng yr heddlu a swyddogion tân wedi dechrau ac mae perthynas agosaf y dyn wedi cael gwybod.

Dywedodd yr Arolygydd Patrôl Jason Higgins: ”Gwnaethom dderbyn adroddiad am 7.34yb am ddamwain cerbyd.”

”Fe wnaeth swyddogion ymateb gyda chydweithwyr o’r gwasanaeth tân ac ambiwlans. Yn anffodus, bu farw dyn lleol yn y fan a’r lle.”

”Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin ar hyn o bryd fel un anesboniadwy. Rydym yn ymchwilio’r amgylchiadau ar y cyd â’r gwasanaeth tân.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice