Darganfod cyffuriau: dyn yn cael ei holi

Mae dyn o Gaernarfon yn cael ei holi gan yr heddlu yn dilyn darganfyddiad cyffuriau mawr.

Cafodd dyn 26 oed ei arestio ddydd Sadwrn (2 Tachwedd) ar ôl cael ei ddarganfod mewn meddiant o swm sylweddol o arian a chyffuriau ym Mangor. Mae’r dyn yn aros yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Dywedodd Arolygydd Jon Aspinall: ”Mae hwn yn ddarganfyddiad arwyddocaol i ni ac un sy’n anfon neges glir i’r rhai sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon y byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i leihau’r effaith y mae gwerthu’r sylweddau hyn yn ei chael ar y gymuned leol.”

”Ni fydd ein gwaith yn dod i ben a byddwn yn parhau i wneud arestiadau er mwyn gwneud y gymuned yn ddiogel.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice