Cymru ‘C’ i wynebu Lleogr ‘C’ yng Nghaernarfon

CBDC

Bydd cartref CPD Tref Caernarfon yn llwyfannu gêm ryngwladol rhwng Cymru C a Lloegr C fis Mawrth nesaf.

Bydd y ddau dîm lled-broffesiynol yn chwarae yn Yr Ofal ar nos Fawrth 24 Mawrth 2020 (7.45 cic gyntaf).

Dyma’r trydydd tro i’r ddau dîm cwrdd, yn cynnwys gêm gyfartal 2-2 llynedd yn Salford ar ôl i Kayne McLaggon (Tref Y Barri) ac Adam Roscrow (cyn-ymosodwr Met Caerdydd) sgorio i Gymru.

Yn y gêm gyntaf yn 2018, Lloegr oedd y tîm buddugol wrth iddyn nhw ennill 3-2 yn y Barri.

Mark Jones (cyn-reolwr Port Talbot) ac Owain Tudur Jones (cyn chwaraewr canol cae) fydd rheolwyr Cymru C unwaith eto.

Wrth sôn am y gêm, dywedodd Mark Jones: ”Ni’n gwybod bod y Cofis yn gefnogwyr gwych ac rwy’n edrych ymlaen at glywed y sŵn yn yr Ofal ar y diwrnod. Rwy’n siŵr bydd nifer fawr o’r dref a’r gymuned yn dod i gefnogi pêl-droed rhyngwladol yn yr ardal.”

”Dyma’r trydedd flwyddyn yn olynol i ni gynnal y gêm C rhwng Cymru a Lloegr. Rwy’n edrych ymlaen at wylio pob tîm yn y JD Cymru Premier dros y misoedd nesaf er mwyn pigo’r garfan gryfach posib ar gyfer mis Mawrth.”

Ychwanegodd Paul Fairclough, rheolwr Lloegr C: ”Rwy’n edrych ymlaen at y gêm ryngwladol C yn erbyn Cymru. Mae’r gemau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hynod gyffrous ac mae’n wych i wybod fe fyddwn ni’n chwarae ein gilydd am y trydedd flwyddyn yn olynol.”

”Roedd y gemau diwethaf yn rhai hynod o gyffrous i’r cefnogwyr wrth i’r goliau hedfan mewn. O’r ochr dechnegol roedd y gemau o’r safon uchaf ac rwy’n hyderus byddwn ni’n gweld yr un peth eto ym mis Mawrth.”

Bydd manylion am docynnau yn cael eu rhyddhau maes o law.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice