Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi rhybudd arall yn erbyn gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Mae’n dilyn nifer o arestiadau yn y Gogledd Orllewin yr wythnos hon.
Cafodd dynes 59 oed ei harestio ym Mhwllheli bore dydd Iau (31 Hydref) ar ôl methu prawf anadl ar ochr y ffordd.
Roedd swyddogion wedi derbyn gwybodaeth ei bod o bosib yn gyrru dan ddylanwad alcohol felly aethant i chwilio amdani. Cafodd ei chyhuddo ac mi fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon ar dydd Iau 14 Tachwedd.
Hefyd, fe arestiwyd dyn 30 oed ar yr A55 ger Llangefni ar nos Iau ar ôl i swyddogion ei weld yn goryrru. Fe fethodd y prawf anadl ar ochr y ffordd a chafodd ei gyhuddo i ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon ar dydd Llun 18 Tachwedd.
Cafodd arestiadau eraill eu gwneud yn ystod yr wythnos ym Mangor, Caernarfon, Porthmadog a Trawsfynydd.
Meddai’r Rhingyll Dros Dro, Darren Newby o’r Uned Plismona Ffyrdd: ”Er gwaethaf rhybuddion yn ymwneud â pheryglon yfed a gyrru mae pobl yn parhau i beryglu eu bywydau a bywydau eraill drwy yrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.”
“Mae ein hymgyrch yn erbyn yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau dros gyfnod y Nadolig ar fin dechrau a byddwn yn parhau yn ein hymdrechion i newid ymddygiad gyrwyr er mwyn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel. Rydym yn gweithredu wrth dderbyn gwybodaeth.”
“Rhaid i bobl sylweddoli beth yw canlyniadau eu gweithredoedd. Gall y canlyniadau gael effaith ddifrifol ar eich bywyd personol, cymdeithasol, ariannol a’ch cyfle i gael gwaith.”
”Mae yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau nid yn unig yn drosedd ond hefyd yn hollol annerbyniol ac yn peryglu bywydau. Byddwn yn parhau i dargedu’r rheini sy’n torri’r gyfraith fel rhan o’n plismona dyddiol. Gwrandewch ar y rhybudd.”