Bae Cemeas: beiciwr moped yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad

Mae beiciwr moped yn ddifrifol wael yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ym Mae Cemaes.

Cafodd yr heddlu eu galw i addroddiad am damwain rhwng beic modur moped a cherbyd KIA Stonic gwyn ar yr A5025 tua 12.05yb bore Sul (27 Hydref)

Cafodd beiciwr y moped ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol iawn i’r goes.

Dywedodd Rhingyll Nikki Grimes-Williams o’r Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Mae’r ymchwiliad yn parhau i sefydlu’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r gwrthdrawiad hwn ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd wedi teithio ar yr A5025 rhwng Amlwch a Bae Cemaes o gwmpas hanner nos.”

”Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd cerbydau dan sylw ac yn enwedig y rhai sydd â chamera cerbyd.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr gwrthdrawiad, cysylltwch ag Uned Plismona Ffyrdd y Gorllewin ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod X156141.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice