Ffair Borth: ffyrdd ar gau ym Morthaethwy

Mae’r paratoadau ar gyfer Ffair Borth ym Morthaethwy wedi dechrau.

Mae nifer o ffyrdd wedi bod ar gau yng nghanol y dref cyn y ffair stryd draddodiadol ddydd Iau (24 Hydref).

Bydd gorchymyn cau ffyrdd ar gyfer Ffordd Telford, Stryd y Bont, Ffordd y Ffair a Stryd Paced yn weithredol o 2yp ar prynhawn Mercher tan 7yb fore dydd Gwener. Bydd gwyriadau yn weithredol a bydd arwyddion yn cael eu codi ar gyfer y rhain.

Gellir parcio ym meysydd parcio Bulkeley, Choed Cyrnol a Waun. Mae meysydd parcio Ffordd y Ffair a Llys Menai yn cael eu defnyddio gan y ffair.

Bydd safleoedd bws dros dro ar gael ar Ffordd Mona ar ddydd Mercher 23ain a dydd Iau 24ain Hydref.

Bydd cyfyngiadau Dim Llwytho / Dadlwytho yn weithredol yng Nghilbedlam, y Stryd Fawr a rhannau o Ffordd Cadnant am y cyfnod y bydd y gorchymyn cau ffyrdd yn weithredol.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice