Damwain ger Trac Môn: dau yn yr ysbyty

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dau o bobl wedi cael eu hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger Trac Môn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r damwain ar yr A4080, rhwng Llanfaelog ac Aberffraw, toc wedi 3.45yp brynhawn Iau (10 Hydref).

Roedd y ffordd ar gau am dros awr yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car Audi llwyd a Mazdu du.

Cafodd dyn a dynes ei gludo i’r Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Heddlu Gogledd Cymru

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice