Caethwasiaeth fodern: arestio tri ym Môn

Heddlu Gogledd Cymru

Mae tri o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad i gaethwasiaeth fodern ar Ynys Môn.

Cafodd dau ddyn lleol ei arestio yn ystod cyrch gan dditectifs arbenigol ar yr Ynys ddydd Mawrth (24 Medi).

Arestiwyd trydydd person yn dilyn y gwarant gan swyddogion troseddau blaenoriaethol a caethwasiaeth fodern. Mae’r tri wedi eu rhyddhau o dan ymchwiliad.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, gwnaeth asiantaethau cymorth ymuno â swyddogion i weithredu gwarant a chynnig gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern posibl.

Dywedodd yr Arolygydd Ardal Andy Gibson: ”Rydym yn ymroddedig i amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas a gwneud Gogledd Cymru’r lle mwyaf diogel yn y DU.”

Nid oes manylion pellach ar gael ar hyn o bryd.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice