Apêl newydd wedi gwrthdrawiad ger Bontddu

Mae’r heddlu yn adnewyddu eu hapêl am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn ne Gwynedd fis diwethaf.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 12.40yb ar bore dydd Llun (5 Awst) pan adawodd Toyota Corolla’r ffordd a tharo coeden ar yr A496 ger Bontddu.

Aethpwyd â’r teithiwr i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth gydag anafiadau difrifol ac arestiwyd y gyrrwr mewn cysylltiad â’r digwyddiad. Mae ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu gwneud.

Dwyeddod DC Aron Humphreys: ”Rwyf yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y cerbyd wedi ei ddifrodi’n ddifrifol ar y ffordd.”

”Rwyf yn awyddus i adnabod dyn a siaradodd â’r dyn a’r ddynes yn y fan a’r lle gan ei bod hi’n bosib bod ganddo wybodaeth a allai fod yn allweddol i’r ymchwiliad. Dywedir ei fod yn gyrru cerbyd tywyll ac yn teithio i ardal Llundain.”

”Mi faswn i’n annog y person hwn i gysylltu â’r heddlu. Rwyf hefyd yn apelio ar unrhyw un a welodd Toyota arian yn teithio ar hyd y ffordd cyn y gwrthdrawiad i ddod ymlaen neu unrhyw un sydd â thystiolaeth ar gamera cerbyd.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr gwrthdrawiad, cysylltwch â DC Humphreys yn CID De Gwynedd ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 19100430760. Fel arall, defnyddiwch y sgwrs we fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice