Dyn o Langefni ar goll: apêl CCTV newydd

Lluniau teledu CC: Heddlu Gogledd Cymru

Mae’r heddlu wedi lawnsio apêl o’r newydd am gymorth i ddod o hyd i ddyn sydd wedi bod ar goll o Llangefni.

Does neb wedi gweld Mark Jones, 37 oed, ers 2.49yp ddydd Llun (2ail o Fedi) – pan oedd yn cerdded ger siop Aldi yn Llangefni. Mae’r ddau lun camerau cylch cyfyng yma wedi’u rhyddhau.

Yn ôl yr heddlu, mae Mr Jones tua 5’6 o daldra gyda gwallt yn tenuo, barf a chorff weddol stoci.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am ei ddiflaniad, cysylltwch â gorsaf heddlu Llangefni ar 101, gan ddyfynnu cyfeirnod itrace 28814.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice