Arestio tri wedi aflonyddwch yng Nghaernarfon

Mae tri o bobl wedi’u harestio yn dilyn aflonyddwch ar ystâd yng Nghaernarfon.

Cafodd heddlu arfog eu galw tua 5yp ddydd Llun Gŵyl y Banc (26 Awst) ar ôl adroddiadau o ymddygiad amheus yn ardal Bro Seiont.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd dau ddyn eu arestio ar amheuaeth o droseddau drylliau tanio ar nos Fawrth ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa.

Mae dynes wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn y llys. Cafodd ei harestio am rwystro swyddogion heddlu yn ystod yr digwyddiad.

 

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice