Gerald Corrigan: apêl i ddarganfod tri cherbyd

Heddlu Gogledd Cymru

Mae’r Heddlu yn ceisio darganfod gyrwyr tri cherbyd fel rhan o’r ymchwiliad parhaus i lofruddiaeth Gerald Corrigan.

Heddlu Gogledd Cymru

Roedd y cerbydau’n teithio ar hyd ffordd Porthdafarch, Caergybi, rhwng 11yh ar nos Iau 18 Ebrill a 1yb ar dydd Gwener y Groglith (19 Ebrill).

Saethwyd Mr Corrigan (74 oed) gyda bwa croes  y tu allan i’w gartref ger Caergybi, a bu farw yn yr ysbyty yn Stoke ar Fai 11.

Heddlu Gogledd Cymru

Mae Terence Whall (38) o Fryngwran wedi ei gyhuddo o lofruddio’r cyn-ddarlithydd o Swydd Gaerhirfryn. Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 5 Medi.

Mae tri dyn arall wedi’u cyhuddo o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr cerbydau, cysylltwch â CID Llangefni ar 101, gan ddyfynnu Ymgyrch Blue Fulgent, neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice