Gwrthdrawiad ar yr A496: dynes yn yr ysbyty

Mae dynes wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad ar yr A496 yn ne Gwynedd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad 12.30yb ar bore dydd Llun (5 Awst) pan adawodd Toyota Corolla’r ffordd a tharo coeden rhwng y Bontddu a’r Bermo.

Aethpwyd â’r teithiwr i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andy Gibson: ”Hoffem glywed oddi wrth unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r modd yr oedd y car yn cael ei yrru cyn y digwyddiad.”

”Deallwn i’r cerbyd adael y Bermo gan deithio tuag at Ddolgellau a hoffem siarad ag unrhyw un sydd â thystiolaeth camera cerbyd cyn y gwrthdaro.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr gwrthdrawiad, cysylltwch â DI Gibson ar 101, gan ddyfynnu X111895. Fel arall, defnyddiwch y sgwrs we fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice