Gwrthdrawiad Bangor: beiciwr modur wedi’u hanafu’n ddifrifol

Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mangor.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r damwain ar Ffordd Caernarfon ychydig cyn 4.15yp ddydd Iau (25 Gorffennaf) ar y gylchfan y tu allan i dafarn yr Union Inn oedd yn cynnwys beic modur treialon a char Suzuki melyn.

Roedd y gwasanaethau brys a fynychodd yn cynnwys yr ambiwlans awyr a chafodd y beiciwr, dyn ifanc yn ei 20au cynnar, ei gludo gan yr hofrennydd i’r uned trawma arbenigol yn Stoke.

Roedd y ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad am mwy na 4 awr, rhwng yr cylchfan Matalan a’r bont reilffordd.

Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw un a welodd y beic modur oren a du yn teithio yn ardal Ffordd Anion a Heol Ddewi tua 4yp, neu’r Suzuki, a oedd yn teithio ar hyd Ffordd Caernarfon o gyfeiriad canol y ddinas.

Dywedodd Rhingyll Meurig Jones o’r Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Rydym hefyd yn annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ac sydd eto i gysylltu â ni i wneud hynny cyn gynted ag y bo modd.”

”Mae ymholiadau lleol bellach ar y gweill ac rydym hefyd yn apelio i unrhyw un sy’n byw yn y cyffiniau ac sydd â chamerâu CC i gysylltu â ni.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr gwrthdrawiad, cysylltwch â’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn Llandegai ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod X105581.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice