Ymosodiad ar heddlu ym Mangor: cyhuddo dyn

Mae dyn 37 oed wedi’i gyhuddo o ddwyn taser yn ystod ymosodiad ar swyddog heddlu ym Mangor.

Bydd Barry John Roberts yn ymddangos gerbron ynadon yng Nghaernarfon ddydd Mawrth. Mae wedi cael ei gyhuddo o ddwyn taser yr heddlu a meddu arf a oedd wedi’i lunio neu ei addasu fel teclyn rhyddhau trydan i lonyddu.

Mae ditectif yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiad lle ymosodwyd ar swyddog mewn dillad plaen yn y Stryd Fawr tua 1.30yp ddydd Iau diwethaf (4 Gorffennaf).

Er bod angen triniaeth arno yn yr ysbyty, nid oedd y swyddog wedi anafu’n ddifrifol.

Arestiwyd saith o bobl, ond rhyddhawyd tri ohonyn nhw ac ni fydd yr heddlu yn dod ag unrhyw achos yn eu herbyn.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dafydd Curry: ”O ganlyniad i ymholiadau dwys, rydym wedi casglu rhannau o’r taser a oedd ar goll Fodd bynnag, mae’r prif ddryll eto i’w ganfod.”

”Gwnaiff ein tîm o dditectifs dygn barhau gyda’r ymchwiliad hyd nes y bydd y taser i gyd wedi’i leoli. Bydd gweithgarwch heddlu pellach mewn ymateb i’r digwyddiad annerbyniol hwn.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr digwyddiad, cysylltwch â gorsaf heddlu Bangor ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod X093333, neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice