Caernarfon: cyhoeddi rhestr gemau UGC

Mae rhestr gemau Tref Caernarfon ar gyfer tymor Uwch Gyngrhair Cymru 2019-20 wedi cael ei rhyddhau.

Bydd tymor yr Cofis yn dechrau gyda gêm ail rownd yng Nghwpan Cynghrair Nathaniel MG ar benwythnos cyntaf mis Awst (y ‘draw’ i’w wneud mis nesaf).

Ond mae’r tymor yn y gynhgrair wedi’i drefnu i gychwyn ar nos Wener 16 Awst gydag agoriad caled i’r Cofis yn erbyn y pencampwyr, Y Seintiau Newydd, yn Neuadd y Parc.

Bydd y rhan cyntaf o’r tymor yn dod i ben ar nos Wener 17 Ionawr gyda thaith hir i lawr i Met Caerdydd ar campws Cyncoed.

Dros y Nadolig, bydd Caernarfon yn croesawu Bala i’r Oval ar Gwyl San Steffan ac yn chwarae yn Faes Tegid ar gyfer y gêm dychwelyd ar nos Lun 30 Ragfyr.

TREF CAERNARFON – gemau rhan cyntaf tymor UGC 2019-20
Nos Wener 16 Awst: Y Seintiau Newydd – 7.45 cic gyntaf, Neuadd y Parc
Nos Wener 23 Awst: Cei Connah – 7.45 cic gyntaf, Yr Ofal
Dydd Llun 26 Awst: Derwyddon Cefn – 2.30 cic gyntaf, Yr Ofal
Nos Wener 30 Awst: Airbus Brychdyn – 8yh cic gyntaf, The Airfield, yn fyw ar S4C Sgorio
Dydd Sadwrn 7 Medi: Tref y Barri – 2.30 cic gyntaf, Parc Jenner
Dydd Sadwrn 14 Medi: – Pen-y-Bont (H) – 2.30 cic gyntaf, Yr Ofal
Nos Wener 20 Medi: Tref Aberystwyth – 7.45 cic gyntaf, Coedlen y Parc
Nos Wener 27 Medi: Y Drenewydd – 7.45 cic gyntaf, Yr Ofal
Nos Wener 4 Hydref: Y Seintiau Newydd – 7.45 cic gyntaf, Yr Ofal
Nos Fawrth 15 Hydref: Cei Connah – 7.45 cic gyntaf, Stadiwm Glannau Dyfrdwy
Nos Wener 18 Hydref: Derwyddon Cefn – 7.45 cic gyntaf, Y Graig
Dydd Sadwrn 26 Hydref: Tref Caerfyrddin – 2.30 cic gyntaf, Yr Ofal
Dydd Sadwrn 2 Tachwedd: Tref y Barri – 2.30 cic gyntaf, Yr Ofal
Nos Wener 8 Tachwedd: Y Drenewydd – 7.45 cic gyntaf, Parc Latham
Dydd Sadwrn 16 Tachwedd: Pen-y-Bont – 2.30 cic gyntaf, Parc Bryntirion
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd: Met Caerdydd – 2.30 cic gyntaf, Yr Ofal
Nos Wener 13 Rhagfyr: Airbus Brychdyn – 7.45 cic gyntaf, Yr Ofal
Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr: Tref Caerfyrddin – 2.30 cic gyntaf, Parc Waun Dew
Gwyl San Steffan: Tref y Bala – 2.30 cic gyntaf, Yr Ofal
Nos Lun 30 Rhagfyr: Tref y Bala – 7.45 cic gyntaf, Maes Tegid
Nos Wener 10 Ionawr: Tref Aberystwyth – 7.45 cic gyntaf, Yr Ofal
Nos Wener 17 Ionawr: Met Caerdydd – 8yh cic gyntaf, Campws Cyncoed

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice