Arestio pedwar dyn wedi aflonyddwch yng Nghaergybi

Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio yn dilyn aflonyddwch ar stad yng Nghaergybi.

Cafodd y dynion eu harestio ar amheuaeth o ffrwgwd ar ôl digwyddiad trefn gyhoeddus yn Tan-yr-Efail ddydd Mawrth (11 Mehefin). ‘

Roedd sawl cerbyd yr heddlu yno gan gynnwys Uned Cŵn Swydd Gaer a Gogledd Cymru.

Mae’r dynion wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau’n parhau. Nid oes unrhyw fanylion pellach am yr aflonyddwch.

Mae’r heddlu yn apelio am dystion neu unrhyw un sydd â lluniau neu fideo ffôn o’r digwyddiad i ddod ymlaen.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan roi’r rhif cyfeirnod X080856.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice