Gerald Corrigan: cyfres o gyrchoedd yng Nghaergybi

Llun teulu: Heddlu Gogledd Cymru

Mae ditectifs sy’n ymchwilio i lofruddiaeth Gerald Corrigan wedi gweithredu pedwar gwarant chwilio yn ardal Caergybi.

Mae’n saith wythnos ers saethu bwa croes y tu allan i gartref Mr Corrigan ger Ffordd Ynys Lawd yn oriau man bore Gwener 19 Ebrill. Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke ond bu farw yno o’i ”anafiadau erchyll” ar 11 Mai.

Nid oes neb wedi eu harestio yn dilyn yr chwiliadau fore Mawrth (4 Mehefin).

Ond yn ôl yr heddlu, mae’r swyddogion ynymchwilio i wybodaeth gan y cyhoedd yng nghyswllt marwolaeth Mr Corrigan, cyn-darlithydd ffotograffiaeth a fideo o Swydd Gaerhirfryn.

Dywedodd DCI Brian Kearney: ”Bu timau o dditectifs, ynghyd ag ymchwilwyr troseddol a swyddogion ymchwil arbenigol yn cynnal ymchwiliadau mewn nifer o gyfeiriadau yn ardal Caergybi.”

”Dwi’n argyhoeddedig mai’r cyhoedd sydd â’r ateb i’r drosedd erchyll hon. Hoffwn annog pobl sy’n agos at yr un neu’r rhai sy’n gyfrifol i ddod i siarad â mi neu’r tîm ymchwilio yn gyfrinachol.”

”Un o’r llefydd mwyaf diogel yn y DU yw Gogledd Gorllewin Cymru ac rydym yn benderfynol o ganfod pwy bynnag oedd yn gyfrifol am lofruddio Gerald Corrigan, pensiynwr 74 oed hollol ddiniwed.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y saethu, cysylltwch â CID Llangefni ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice