Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad yn Y Fali

Mae dyn yn ei 70au wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad traffig yn Y Fali fis diwethaf.

Fe digwyddod y damwain mewn car Peugeot gwyn ar Ffordd Gorad tua 3.20yp ar dydd Llun 20 Mai.

Cafodd y gyrrwr ei gludo i Ybsyty Gwynedd ym Mangor mewn ambliwans ond fe’i trosglwyddwyd yn ddiweddarach i’r uned trawma arbenigol mewn ysbyty yn Stoke.  Bu farw’r dyn ar ddydd Gwener 24 Mai.

Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw dystion fel rhan o ymchwiliad i’r gwrthdrawiad.

Dwyeddod Bryn Evans, casglwr tystiolaeth Heddlu Gogledd Cymru: ”Mae ein meddyliau yn aros gyda theulu’r bonheddwr ar yr adeg trist ‘ma.”

”Rydym yn apelio at unrhyw un sydd wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu unrhyw un sydd wedi gweld y Peugeot yn cael ei yrru yn union cyn iddo wrthdaro gyda wal, i ddod ymlaen.”

”Yn yr un modd rydym yn apelio at unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd Ffordd Gorad tua’r un adeg â’r gwrthdrawiad ac sydd â chamera cerbyd i gysylltu â ni.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am yr damwain, cysylltwch â’r Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod X069139.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice