Blaenau Ffestiniog: arestio dau mewn cyrch cyffuriau

Mae dau ddyn o Lannau Mersi wedi cael eu arestio yn dilyn cyrch cyffuriau ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Iau (30 Mai).

Cafodd y dynion eu harestio ar amheuaeth o fod ynghylch cyflenwi cyffuriau rheoledig a thyfu canabis.

Dyma’r trydydd cyrch yn y dref mewn llai na mis. Arestiwyd pedwar dyn mewn cyfeiriadau eraill mewn cysylltiad â throseddau tebyg.

Dywedodd yr Arolygydd Rhanbarthol Matt Geddes: ”Gwnawn barhau i dargedu’r unigolion hynny sy’n bwriadu niweidio ein cymunedau drwy eu menter droseddo, boed o ran cyffuriau, troseddau caffael, neu unrhyw droseddoldeb arall.”

”Rwyf eisiau diolch i’r gymuned leol am eu cymorth parhaus ac am rannu gwybodaeth. Gwnaeth ein cynorthwyo i weithredu heddiw.”

”Gellir trosglwyddo unrhyw wybodaeth a wnaiff gynorthwyo ein hymdrechion drwy 101, ein gwasanaeth sgwrs we fyw neu’n ddienw drwy Taclo’r Tacla.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice