Mae dynes wedi cael dirwy o £4,000 am fewnforio cŵn bach yn anghyfreithlon drwy porthladd Caergybi.
Cafwyd Jamie Rose Colquhoun (28), o Dundee yn yr Alban, yn euog ac fe’i dedfrydwyd mewn perthynas â throseddau cysylltiedig â mewnforio.
Cafodd ei stopio gan yr heddlu ym mhorthladd Caergybi a chanddi 7 o gŵn bach. Cynhaliwyd ymchwiliad dilynol gan swyddogion iechyd anifeiliaid Cyngor Ynys Môn.
Rhoddwyd Colquhoun ar brawf yn ei habsenoldeb yn llys ynadon Caernarfon am droseddau’n ymwneud â llesiant yn ystod trafnidiaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: ”Bu Colquhoun anwybyddu’r gyfraith mewn perthynas â rheoliadau cludo anifeiliaid, rheoliadau sy’n sicrhau llesiant anifeiliaid pan fyddant yn cael eu cludo.”
”Rhaid i gludwyr masnachol anifeiliaid gadw at y gyfraith a chydymffurfio â rheolau mewnforio a chludo.”
”Mae’r rhain yn faterion difrifol a bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn ymchwilio i achosion o’r fath ac yn rhoi troseddwyr o flaen eu gwell yn y Llysoedd. Mae’r ddedfryd hon yn adlewyrchiad o ddifrifoldeb y troseddau.”
Rhoddwyd dirwy o £1,000 i Colquhoun am bob troseddau a chafodd ei gorchymyn i dalu costau o £789 a thâl dioddefwr ychwanegol o £100.