Carcharu dynes am yrru dan waharddiad

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dynes o Fanceinion wedi cael ei charcharu am 18 mis ar ôl cael ei dal yn gyrru tra ei bod wedi ei gwahardd.

Cafodd Natasha Sidorowicz, 43 oed o Swinton ei stopio gan swyddogion ar Ebrill 30 ar Ffordd y De, Caernarfon a’i harestio.

Yn llys ynadon Caernarfon ddydd Iau diwethaf (16 Mai), cafodd Sidorowicz hefyd ei gwahardd rhag gyrru am 38 mis a’i gorfodi i dalu £115 i’r dioddefwr a £85 o gostau.

Dyweddod PC Scott Martin o Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Roedd hi’n amlwg yn meddwl ei bod yn uwch na’r gyfraith ac mae wedi dangos dirmyg tuag at y llys, a oedd wedi eu gwahardd o’r blaen.”

”Mae gyrwyr sy’n gyrru heb drwydded nac yswiriant yn achosi peryg i yrwyr eraill ar y ffordd fawr. Gobeithio y bydd hyn yn anfon neges glir i bobl sy’n anwybyddu’r gyfraith y byddant yn mynd i’r carchar yn hytrach na dim ond colli eu trwydded gyrru.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice