A5025: apêl ar ol gwrthdrawiad taro a ffoi

Mae’r heddlu yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad taro a ffoi ar yr A5025.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Bae Cemaes ac Amlwch tua 9.25yh nos Fawrth (14 Mai).

Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys beic modur a cherbyd y credid ei fod yn gar cefn codi coch. Gwrthdrawodd y car coch â’r beiciwr modur ac o ganlyniad mae’r beiciwr wedi cael anafiadau.

Methodd gyrrwr y car stopio yn y lleoliad gan yrru i ffwrdd i gyfeiriad Bae Cemaes.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: ”Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd efallai wedi bod yn teithio yn yr ardal neu gerllaw ar y pryd.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch â PC Hughes yng ngorsaf heddlu Caergybi ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod X066260.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice