Gwrthdrawiad ar yr A487: dynes yn yr ysbyty

Mae dynes wedi cael anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ger Caernarfon dros y penwythnos.

Toc ar ôl 4yp ar prynhawn dydd Sul (12 Mai), fe dderbyniodd yr heddlu adroddiad gan y Gwasanaeth Ambiwlans am wrthdrawiad sef beic modur, Renault Megane lliw glas, Isuzu D-max 4×4 a Ford Focus gwyn ar Griffiths Crossing yn arwain at Ffordd Osgoi Felinheli.

Roedd yr A487 ar gau i’r ddau gyfeiriad am ddwy awr.

Cludwyd y beiciwr i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond mae hi eisoes wedi cael ei throsglwyddo i’r uned trawma arbenigol mewn ysbyty yn Stoke hefo anafiadau difrifol.

Meddai PC Daniel Edwards o Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Rydym yn apelio am dystion i’r gwrthdrawiad, ac yn awyddus iawn i siarad ag unrhyw un a oedd yn teithio o amgylch yr ardal neu unrhyw un sydd â chamera cerbyd i gysylltu â ni.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, cysylltwch â’r Uned Plismona’r Ffyrdd (Rhanbarth y Gorllewin) ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod X065014.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice